Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (231)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Trosglwyddwyd cwestiwn 15 i’w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
3 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015/16
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5621 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16, fel y pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM5624 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl hŷn yn ei wneud i les cymdeithasol ac economaidd Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi cyhoeddi'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref', adolygiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn o ofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adolygiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu a nodi gofynion hyfforddiant sylfaenol ar gyfer gweithwyr cartref gofal sy'n ymgorffori egwyddorion urddas a pharch.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5622 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
38 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5622 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod costau cyfleustodau yn annerbyniol o uchel ac yn nodi'r anawsterau penodol y mae hyn yn eu hachosi ar gyfer cymunedau gwledig, busnesau, a'r rhai ar incwm isel.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i rewi prisiau ynni.
3. Yn nodi'r gronfa 'Cheaper Energy Together' a lansiwyd gan Adran Llywodraeth y DU ar Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i gefnogi newid cyflenwyr ar y cyd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda DECC i hyrwyddo newid cyflenwyr ar y cyd ledled Cymru i leihau biliau defnyddwyr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i liniaru costau cyfleustodau uchel.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar gostau cysylltiad â'r grid a'u heffaith ar filiau cyfleustodau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i'r Grid Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn edrych ar Gymru yn ei chyfanrwydd wrth gyfrifo sut y mae trydan yn cael ei allforio pan gaiff cyfrifiadau prisio eu gwneud er mwyn sicrhau gwerth am arian i ddefnyddwyr.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pa mor agored i gynnydd mewn prisiau y mae cwsmeriaid nad ydynt ar y grid, lle mae opsiynau ar gyfer newid yn gyfyngedig, neu lle nad yw marchnadoedd yn cael eu rheoleiddio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
14 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5623 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn.
2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu;
b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac
c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y caiff y Gweinidog ei benodi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
7 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.58
Crynodeb o Bleidleisiau
8 Dadl Fer - Gohiriwyd
Daeth y cyfarfod i ben am 18.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2014